top of page
2.png

Ymchwiliadau Rhyngrwyd Corfforaethol

Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ddarparu adolygiad cynhwysfawr o'r wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus am sefydliad. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn i ddysgu am yr hyn sy'n cael ei ddweud am sefydliad ar y rhyngrwyd, pa wybodaeth y mae cyflogeion yn ei rhyddhau neu a oes unrhyw straeon newyddion, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol neu gysylltiadau niweidiol. Gallai seiberdroseddwyr hefyd ddefnyddio'r wybodaeth a gesglir o'r math hwn o weithgaredd yn ystod camau cyntaf paratoi am ymosodiad seiber. Bydd hefyd yn eich helpu i ddeall a yw'r strwythur diogelwch ar-lein yn wael, gan wneud y sefydliad yn darged deniadol i seiberdroseddwyr, yn yr un ffordd y mae lladron yn cerdded i lawr y ffordd yn chwilio am larymau lladron, ffenestri agored a giatiau heb eu cloi. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn hefyd i arfer diwydrwydd dyladwy lefel uchel ar sefydliad, cyflenwr neu ddarpar bartneriaeth arall. Mae Ymchwiliadau Rhyngrwyd Corfforaethol ond yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ac adnoddau pori'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol. Nid yw'n ymgysylltu ag unrhyw sefydliad neu unigolyn, ni ddefnyddir mesurau nac adnoddau ymwthiol ac ni ddefnyddir unrhyw dechnegau peiriannu cymdeithasol. Mae'r ymchwiliad bob amser wedi’i deilwra i frîff y cleient, lle caiff yr amcanion, y pryderon a'r canlyniadau a nodir eu casglu a'u dilysu cyn yr ymchwiliad.

 

Mae adroddiadau'r gwasanaeth yn cynnwys adroddiad manwl yn nodi'r ffynonellau, dolenni, cysylltiadau ac asesiad cynhwysfawr o'r bygythiad yn seiliedig ar y brîff cychwynnol, yn ogystal ag esboniad o'r ffordd y gellir defnyddio gwybodaeth mewn ymosodiad yn erbyn y sefydliad, neu unrhyw fygythiadau canfyddedig gan y sefydliad hwnnw.

Darperir cynnwys y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni fwriedir iddo gymryd lle cyngor proffesiynol penodol sy'n berthnasol i'ch sefyllfa. Bwriad Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yw annog seibr-wydnwch drwy godi materion a lledaenu gwybodaeth am brofiadau a mentrau pobl eraill.  Ni all erthyglau ar y wefan yn ôl eu natur fod yn gynhwysfawr ac efallai nad ydynt yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth, arfer neu gymhwysiad diweddaraf i'ch amgylchiadau. Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn darparu gwasanaethau fforddiadwy a Phartneriaid Dibynadwy os oes angen cymorth penodol arnoch. Am gwestiynau penodol, cysylltwch â ni yn enquiries@wcrcentre.co.uk.

 

Nid yw Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled a all ddeillio o ddibyniaeth ar wybodaeth neu ddeunyddiau a gyhoeddir ar y ddogfen hon.  Nid yw'n gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol sy'n cysylltu i'r wefan hon neu sy'n gysylltiedig ohoni.

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

Cartref

Amdanom ni
Cysylltwch â Ni

Polisi Preifatrwydd
Telerau ac Amodau
Ymwadiad Cyfreithiol

​

Wales Logo 4.png
  • Twitter
  • Facebook
  • Youtube
  • Linkedin
cyberessentials_certification mark_colour .png
chambers-wales-member-medium-con-2-1.png
cyberessentials_certification-mark-plus_colour.png
bottom of page