Ymchwiliadau Rhyngrwyd Unigolion
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu adolygiad cynhwysfawr o bresenoldeb ar-lein unigolyn, ei gysylltiadau a pha wybodaeth bersonol neu breifat sydd ar gael yn gyhoeddus. Caiff y cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddiadau newyddion, fforymau ar-lein a chofnodion cyhoeddus eu hadolygu i greu proffil rhyngrwyd unigolyn ac i ddeall unrhyw risgiau penodol i unigolyn neu fygythiadau gan yr unigolyn hwnnw. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y math hwn o ymchwiliad i ategu gwiriadau cyn cyflogi, rheoli bygythiadau posibl i Gyfarwyddwr sefydliad neu ei deulu, neu i ddeall mwy am unigolyn sydd o ddiddordeb penodol. Mae'r ymchwiliad bob amser wedi’i deilwra i frîff y cleient, lle caiff yr amcanion, y pryderon a'r canlyniadau a nodir eu casglu a'u dilysu cyn yr ymchwiliad.
Mae adroddiadau'r gwasanaeth yn cynnwys adroddiad manwl yn nodi'r ffynonellau, dolenni, cysylltiadau ac asesiad cynhwysfawr o'r bygythiad yn seiliedig ar y brîff cychwynnol, yn ogystal ag esboniad o'r ffordd y gellir defnyddio gwybodaeth mewn ymosodiad yn erbyn yr unigolyn, neu unrhyw fygythiadau canfyddedig gan yr unigolyn hwnnw.