top of page
5.png

Asesiad Gwendid Cyfleusterau Mewnol

Bydd angen mynediad i’ch rhwydwaith a'ch systemau mewnol ar y gwasanaeth hwn er mwyn efelychu rhywun sydd wedi cael mynediad o'r rhyngrwyd neu fygythiad mewnol gan gyflogai. Bydd y gwasanaeth yn sganio ac yn adolygu eich rhwydweithiau a'ch systemau mewnol wrth chwilio am wendidau megis systemau nad ydynt wedi cael eu cynnal a'u cadw na'u dylunio'n dda, rhwydweithiau Wi-Fi anniogel, rheolaethau mynediad anniogel, neu gyfleoedd i gael mynediad at ddata sensitif a'u dwyn. Bydd y gwasanaeth yn nodi'r gwendidau, ond ni fydd yn camfanteisio arnynt. Dylid nodi, er nad ydym yn ymyrryd fawr ddim â'ch systemau, mae risg bob amser y bydd systemau nad ydynt wedi cael eu cynnal a'u cadw na'u dylunio'n dda, yn wynebu toriadau i'r cysylltiad yn ystod asesiadau gwendid. Dyna pam mae cynlluniau tynnu'n ôl ac adfer yn ategu asesiadau gwendid cyfleusterau mewnol, a chytunir arnynt ymlaen llaw er mwyn lleihau'r risg.

 

Bydd adroddiadau'r gwasanaeth yn disgrifio'r hyn y mae pob gwendid yn ei olygu i'ch busnes a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwendidau hynny, a hynny mewn iaith glir. Bydd adroddiadau'r gwasanaeth yn cynnwys cynlluniau a chanllawiau ar sut i drwsio'r gwendidau hynny.

bottom of page