top of page
Wales Background .png
SeiberLarwm yr Heddlu

Helpu'ch busnes i fonitro ac adrodd am y gweithgaredd maleisus rydych chi'n ei wynebu o'r Rhyngrwyd.

Fel busnes yng Nghymru, rydych chi'n gymwys i gofrestru ar gyfer CyberAlarm yr Heddlu am ddim.

Canolfan Seiber-Gwydnwch yr Heddlu
Beth yw'r manteision i'm busnes?

Adroddiadau Rheolaidd

Yn nodi gweithgarwch maleisus/ymosodiadau posibl a ddarganfyddir ar eich wal dân/porth i'r rhyngrwyd. Gallwch ddefnyddio'r adroddiadau hyn i ymchwilio ymhellach a diogelu eich busnes yn well.  

iconfinder_Operation_risk_trouble_684309

Nodi gwendidau eich busnes

Yn sganio gwefan eich busnes a chyfeiriadau IP allanol am wendidau hysbys. Gall yr adroddiadau rheolaidd hyn eich helpu i ddiogelu eich busnes rhag gweithgarwch y gwyddys ei fod yn amheus.

Eicon cudd-wybodaeth.png

Gwybodaeth a chudd-wybodaeth busnes

Defnyddir data i roi manylion am y bygythiadau diweddaraf a ddarganfyddir, gan olygu y gall eich busnes ddiweddaru ei fesurau diogelwch.  

Cloi.png

Helpu'r heddlu i'ch helpu chi 

Mae'r heddlu hefyd yn defnyddio data i nodi bygythiadau presennol, cymryd camau gorfodi yn erbyn seiberdroseddwyr a helpu eich busnes i baratoi a diogelu ei hun yn well. 

​Beth yw Police CyberAlarm? 

Adnodd am ddim yw Police CyberAlarm i helpu eich busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae Police CyberAlarm yn gweithredu fel “camera teledu cylch cyfyng” sy'n monitro'r traffig a welir drwy gysylltiad aelod â'r rhyngrwyd. Bydd yn canfod gweithgarwch yr amheuir ei fod yn faleisus ac yn rhoi adroddiadau rheolaidd arno, gan alluogi sefydliadau i leihau eu gwendidau i'r eithaf.

 

Gellir ychwanegu adnodd Sganio Gwendidau hefyd a'i ddefnyddio i sganio gwefan sefydliad a'i gyfeiriadau IP allanol.

 

Fel busnes yng Nghymru, rydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer Police CyberAlarm am ddim.

Canolfan Seiber Larwm yr Heddlu i Gymru

Sut mae Police CyberAlarm yn gweithio?

Canolfan Seiber Larwm yr Heddlu i Gymru

Unwaith y byddwch yn aelod o Police CyberAlarm, gallwch osod ‘Gweinydd Rhithwir CyberAlarm’ ar eich system a fydd yn casglu ac yn prosesu logiau traffig sy'n nodi gweithgarwch amheus ar eich wal dân/porth i'r rhyngrwyd.   

 

System fonitro yw Police CyberAlarm ac nid yw'n ymyrryd â gweithrediadau arferol y rhwydwaith. Darn bach o gyfarpar rhithwir ydyw sy'n gweithredu y tu allan i'r rhwydwaith. Nid yw'n achosi unrhyw oedi i'r traffig sy'n mynd drwy'r porth a dim ond un clic sydd ei angen i'w osod.   

 

Defnyddir y data a gesglir i lunio adroddiadau rheolaidd ar weithgarwch amheus neu weithgarwch maleisus posibl a welir gan eich busnes, yn ogystal ag adroddiadau sy'n nodi tueddiadau o ran bygythiadau a welir ar draws y rhwydwaith o aelodau Police CyberAlarm. Gall eich busnes ddefnyddio'r gudd-wybodaeth hon i ddiweddaru ei fesurau amddiffyn er mwyn ei ddiogelu'n well rhag bygythiadau seiber.  

 

Defnyddir y data hyn hefyd gan yr Heddlu i werthuso ac olrhain tueddiadau o ran seiberdroseddau, a chymryd camau gorfodi lle y bo'n briodol.  

A yw'n casglu unrhyw ddata personol?

​Nac ydy. Ni chaiff cynnwys y traffig ei gasglu gan y system. Nod y system yw diogelu data personol, cyfrinachau yn y maes ac eiddo deallusol.  

Ble y gallaf gofrestru?  

Cofrestrwch Heddiw 

Os hoffech fod yn rhan o Police CyberAlarm neu gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael diweddariadau ac adroddiadau diogelwch rheolaidd i'ch helpu i feithrin dealltwriaeth well o fygythiadau presennol, gallwch gofrestru ar wefan Police CyberAlarm. 

Gwnewch gais am alwad ffôn i drafod 

Os hoffech ddysgu mwy am Police CyberAlarm, anfonwch neges newydd ar ein tudalen ‘Cysylltu â Ni’ a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi.

System yr heddlu yw Police CyberAlarm, a chaiff yr holl ddata a gesglir eu casglu gan yr heddlu, nid y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru.  

Darperir cynnwys y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni fwriedir iddo gymryd lle cyngor proffesiynol penodol sy'n berthnasol i'ch sefyllfa. Bwriad Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yw annog seibr-wydnwch drwy godi materion a lledaenu gwybodaeth am brofiadau a mentrau pobl eraill.  Ni all erthyglau ar y wefan yn ôl eu natur fod yn gynhwysfawr ac efallai nad ydynt yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth, arfer neu gymhwysiad diweddaraf i'ch amgylchiadau. Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn darparu gwasanaethau fforddiadwy a Phartneriaid Dibynadwy os oes angen cymorth penodol arnoch. Am gwestiynau penodol, cysylltwch â ni yn enquiries@wcrcentre.co.uk.

 

Nid yw Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled a all ddeillio o ddibyniaeth ar wybodaeth neu ddeunyddiau a gyhoeddir ar y ddogfen hon.  Nid yw'n gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol sy'n cysylltu i'r wefan hon neu sy'n gysylltiedig ohoni.

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

Cartref

Amdanom ni
Cysylltwch â Ni

Polisi Preifatrwydd
Telerau ac Amodau
Ymwadiad Cyfreithiol

Logo Cymru 4.png
  • Twitter
  • Facebook
  • Youtube
  • Linkedin
cyberessentials_certification mark_colour .png
siambrau-cymru-aelod-canolig-con-2-1.png
cyberessentials_certification-mark-plus_colour.png
Banner Highly Commended.png
bottom of page