Mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yn rhan o'r rhwydwaith o Ganolfannau Seibergadernid a arweinir gan yr Heddlu a gaiff eu darparu'n genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ag ardystwyr Cyber Essentials a gymeradwywyd gan IASME.
Safon sylfaenol a argymhellir gan y llywodraeth yw Cyber Essentials, a'i nod yw eich helpu i ddiogelu rhag y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin a dangos eich ymrwymiad i seiberddiogelwch os ydych yn rhan o'r gadwyn gyflenwi.
Gall ardystwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan IASME gofrestru ag ECRC fel Partneriaid Dibynadwy, sy'n ei gwneud hi'n haws i fusnesau lleol a sefydliadau yn y trydydd sector ddod o hyd i gyflenwr sydd â'r cymwysterau cywir.
Mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yn gwahodd pob ardystiwr yng Nghymru sydd wedi'i gymeradwyo gan IASME i ddod at ei gilydd er mwyn trafod y gwaith o ddatblygu a lansio Partneriaid Dibynadwy gyda'r ganolfan dros yr wythnosau sydd i ddod.
Cysylltwch â ni i gael manylion os hoffech gymryd rhan.
Comments