Gwahoddir Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer Aelodau o'r Bwrdd ac Aelodau o'r Grŵp Cynghori ar gyfer.
Mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru, sydd megis dechrau, yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan unigolion i ymuno â'r Bwrdd a'r Grŵp Cynghori.
Rydym yn chwilio am gynrychiolaeth gan amrywiaeth o bobl ym mhob maes o ddiwydiant, lleoliadau a chylchoedd gwaith mewn busnesau, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus sydd â swyddfeydd yng Nghymru ar gyfer y canlynol:
Bwrdd y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru
Y dull o lywodraethu ein sefydliad. Ystyrir yr unigolion sy'n aelodau o'r bwrdd fel ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am gynnal trosolwg o weithgareddau'r sefydliad ac sy'n llywio'r sefydliad tuag at ddyfodol cynaliadwy drwy ddefnyddio dulliau llywodraethu cadarn, moesol a chyfreithiol yn ogystal â sicrhau bod ganddo ddigon o adnoddau er mwyn sicrhau bod y busnes yn sefydlog drwy gael polisïau rheoli ariannol cadarn.
Caiff atebolrwydd aelodau'r Bwrdd ei gwmpasu o dan atebolrwydd y Cyfarwyddwyr a'r Swyddogion sy'n briodol ar gyfer y cwmni cyfyngedig, nid er elw, hwn.
Caiff y penodiadau i'r bwrdd ar gyfer y flwyddyn gyntaf eu gwneud drwy wahoddiad, er mwyn cwmpasu ystod o fuddiannau busnes a sectorau a fydd yn cefnogi ac yn helpu gyda'r broses o gyflawni amcanion y Ganolfan. Ni chaiff aelodau'r Bwrdd gydnabyddiaeth ariannol a byddant yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd.
Y Grŵp Cynghori
Mae ein Grŵp Cynghori yn sicrhau perthnasedd ac argymhellion ar gyfer datblygu ein gwasanaethau a'n buddiannau i'n holl aelodau, i fusnesau lleol a sefydliadau trydydd sector.
Caiff cyfres o ddigwyddiadau darganfod eu trefnu'n fuan a chewch eich gwahodd i gyfarfod â'r tîm a dysgu mwy.
留言