top of page
Raleway.png

Polisi Preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn pennu'r ffordd y mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon neu’n rhyngweithio â'r sefydliad hwn fel arall.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich preifatrwydd wedi'i ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod ohoni, yna gallwch fod yn sicr y bydd ond yn cael ei defnyddio yn unol â'r datganiad preifatrwydd hwn.

Mae'n bosibl y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd drwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech ddarllen y dudalen hon o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau. Mae'r polisi hwn yn weithredol o fis Tachwedd 2020.

Yr hyn rydym yn ei gasglu

​

Mae'n bosibl y byddwn yn casglu'r wybodaeth ganlynol:

  • enw a chyfeiriad e-bost

  • pan fyddwch yn gohebu â ni, unrhyw ohebiaeth sydd wedi'i chynnwys yn eich llofnod neu sydd wedi'i chynnwys yn yr ohebiaeth

  • gwybodaeth ddemograffig megis dewisiadau a diddordebau

  • gwybodaeth arall sy'n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion 

 

Os byddwch yn rhannu sylwadau ar ein blog, neu unrhyw nodweddion rhyngweithiol eraill ar ein gwefan, yna gall unrhyw un sy'n edrych ar y wefan weld eich neges. Fodd bynnag, ni fydd eich cyfeiriad e-bost na'ch gwybodaeth bersonol yn weladwy (oni bai eich bod yn cynnwys y wybodaeth honno yn y neges ei hun).

​

Yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth rydym yn ei chasglu

Bydd angen y wybodaeth hon arnom i ddeall eich anghenion ac i ddarparu gwasanaeth gwell i chi ac yn enwedig am y rhesymau canlynol:

  • Darparu'r cylchlythyrau rydych wedi tanysgrifio iddynt i chi

  • Cadw cofnodion mewnol

  • Gwella ein cynhyrchion a'n gwasanaethau

  • Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, er enghraifft i ddangos eich bod wedi rhoi caniatâd i gael gohebiaeth gennym.

  • Darparu gwasanaethau i chi

  • Os byddwch yn cysylltu â ni yn gofyn cwestiwn technegol am ein gwefan, yna mae'n bosibl y bydd angen i ni ei anfon ymlaen at ein cyflenwyr technoleg

 

Diogelwch

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad heb awdurdod neu achos o ddatgelu gwybodaeth, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas ar waith i ddiogelu'r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein.

Sut rydym yn defnyddio cwcis

​

Ffeil fach yw cwci sy'n gofyn am ganiatâd i gael ei osod ar yriant caled eich cyfrifiadur. Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i nodi pa dudalennau o'n gwefan sy'n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi'r data am y traffig ar y tudalennau gwe a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion y cwsmeriaid. Rydym ond yn defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion dadansoddi ystadegol ac yna caiff y data eu dileu o'r system.

​

Ar y cyfan, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well i chi drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy'n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydynt yn ddefnyddiol. Nid yw cwci yn rhoi unrhyw fynediad i ni i'ch cyfrifiadur na mynediad at unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ac eithrio'r data rydych yn dewis eu rhannu â ni.

​

Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiadau eich porwr i wrthod cwcis os byddai'n well gennych. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd hyn yn eich atal rhag manteisio i'r eithaf ar y wefan.

​

Dolenni i wefannau eraill

Mae'n bosibl y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio'r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno, felly ni allwn fod yn gyfrifol am y gwaith o amddiffyn unrhyw wybodaeth rydych yn ei darparu drwy fynd i wefan o'r fath a'i chadw'n gyfrinachol ac nid yw gwefannau o'r fath wedi'u llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen y datganiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.

Ein sail ar gyfer cadw a defnyddio eich data.

​

Os ydych wedi cofrestru i gael cylchlythyrau gennym, byddwn ond yn cadw ac yn defnyddio eich data personol yn unol â'r caniatâd rydych wedi'i roi i ni.

​

Mae hefyd amgylchiadau lle nad oes angen eich caniatâd arnom i gadw a defnyddio eich data personol. Dyma ble y gallwn ddibynnu ar yr hyn a elwir yn "fuddiannau dilys". Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle rydym yn gohebu â chi naill ai am fod gennych chi neu ni ddiddordeb mewn defnyddio gwasanaethau proffesiynol ein gilydd ar ein rhan ein hunain neu ar ran cleient, lle mai un ohonom yw cleient y llall, lle rydym yn darparu gwasanaeth i gleient ac rydych yn cydweithio â'n cleient neu'n ei gynrychioli, neu lle rydych hefyd yn darparu gwasanaethau i'n cleient.

​

Caiff y data y byddwn yn eu casglu mewn perthynas â ffeil cleient eu cadw yn y ffeil cleient honno am o leiaf dwy flynedd. Ni chânt eu defnyddio at unrhyw ddiben arall ac ni chânt eu rhannu ag unigolion nad ydynt yn gysylltiedig â'r cleient hwnnw heb eich caniatâd.

Caiff y data na chânt eu casglu mewn perthynas â chleient penodol eu hadolygu'n rheolaidd a'u dileu pan nad ydynt yn berthnasol nac yn ddefnyddiol mwyach.

​

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

​

Os nad ydych am gael cylchlythyrau neu unrhyw wybodaeth arall gennym mwyach, cliciwch ar y botwm “datdanysgrifio” ar gopi o'r cylchlythyr hwnnw neu anfonwch e-bost atom yn enquiries@wcrc.co.uk gan nodi pa gylchlythyr neu wybodaeth nad ydych am ei gael/chael mwyach.

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni chawn eich caniatâd neu os yw'n ofynnol i wneud hynny yn ôl y gyfraith.

​

Gallwch ofyn am fanylion personol rydym yn eu cadw amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Os hoffech gael copi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch, anfonwch e-bost atom yn enquiries@wcrc.co.uk. Mae'n bosibl y bydd tâl 

Os ydych o'r farn bod unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, anfonwch e-bost atom i'r cyfeiriad uchod cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir ar unwaith.

Darperir cynnwys y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni fwriedir iddo gymryd lle cyngor proffesiynol penodol sy'n berthnasol i'ch sefyllfa. Bwriad Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yw annog seibr-wydnwch drwy godi materion a lledaenu gwybodaeth am brofiadau a mentrau pobl eraill.  Ni all erthyglau ar y wefan yn ôl eu natur fod yn gynhwysfawr ac efallai nad ydynt yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth, arfer neu gymhwysiad diweddaraf i'ch amgylchiadau. Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn darparu gwasanaethau fforddiadwy a Phartneriaid Dibynadwy os oes angen cymorth penodol arnoch. Am gwestiynau penodol, cysylltwch â ni yn enquiries@wcrcentre.co.uk.

 

Nid yw Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled a all ddeillio o ddibyniaeth ar wybodaeth neu ddeunyddiau a gyhoeddir ar y ddogfen hon.  Nid yw'n gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol sy'n cysylltu i'r wefan hon neu sy'n gysylltiedig ohoni.

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

Cartref

Amdanom ni
Cysylltwch â Ni

Polisi Preifatrwydd
Telerau ac Amodau
Ymwadiad Cyfreithiol

​

Wales Logo 4.png
  • Twitter
  • Facebook
  • Youtube
  • Linkedin
cyberessentials_certification mark_colour .png
chambers-wales-member-medium-con-2-1.png
cyberessentials_certification-mark-plus_colour.png
bottom of page