Asesiad Gwendid Cyfleusterau o Bell
Os yw eich sefydliad wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd, bydd y gwasanaeth hwn yn adolygu'r cysylltiad o bell, yn yr un ffordd ag y byddai ymosodwr yn archwilio'r sefyllfa, gan chwilio am wendidau posibl. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio'r un adnoddau a'r un sgiliau ag y mae hacwyr yn eu defnyddio er mwyn mapio cysylltiadau rhyngrwyd eich sefydliad. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn manteisio ar gudd-wybodaeth gan yr Heddlu rhanbarthol a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol er mwyn casglu gwybodaeth am y bygythiadau a'r technegau mwyaf diweddar a ddefnyddir gan seiberdroseddwyr. Dylid nodi, er nad ydym yn ymyrryd fawr ddim â'ch systemau, mae risg bob amser y bydd systemau nad ydynt wedi cael eu cynnal a'u cadw na'u dylunio'n dda, yn wynebu toriadau i'r cysylltiad yn ystod asesiadau gwendid. Dyna pam mae cynlluniau tynnu'n ôl ac adfer yn ategu asesiadau gwendid cyfleusterau o bell, a chytunir arnynt ymlaen llaw er mwyn lleihau'r risg. Nid yw asesiadau gwendid cyfleusterau o bell yn brofion hacio, lle’r nod yw peryglu systemau'n llwyr neu gymryd rheolaeth lawn o'ch systemau. Mae asesiadau gwendid cyfleusterau o bell yn canolbwyntio ar nodi gwendidau y gellir eu defnyddio i beryglu'r system yn y ffordd honno. Bydd adroddiadau'r gwasanaeth yn darparu dehongliad o'r canlyniadau mewn iaith glir gan nodi'r ffordd y gall ymosodwr ddefnyddio unrhyw wendidau, yn ogystal â chyfarwyddiadau syml ar sut gellir trwsio unrhyw wendidau.